Sefydliad Astudiaethau Cystadleuaeth a Chaffael (SACC)

title="Institute for Competition and Procurement Studies (ICPS)" a link.

Croeso i Sefydliad Astudiaethau Cystadleuaeth a Chaffael (SACC)

Mae Ysgol y Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor yn gartref i Sefydliad  Astudiaethau Cystadleuaeth a Chaffael (SACC). Mae’r Sefydliad yn arbenigo mewn ymchwil seiliedig ar dystiolaeth i ymatebion ymddygiadol sefydliadau cyhoeddus a’u cyflenwyr i bolisïau, cyfreithiau ac arferion caffael cyhoeddus.  Daw staff y Sefydliad o nifer o wahanol wledydd, gan gynnwys Cymru, Lloegr, Iwerddon, Nigeria, Portugal, a Sbaen.

Mae dull ymchwil weithredol y Sefydliad yn canolbwyntio ar bobl, yn agored, ac yn tynnu cryfder mawr o’i allu i ymgysylltu a dylanwadu’n gadarnhaol ar brif randdeiliaid caffael cyhoeddus, boed yn brynwyr neu’n gyflenwyr. Gan hynny, mae chwaraewyr amlwg byd-eang yn arsylwi’n graff ar waith y Sefydliad, a chaiff y Sefydliad gydweithrediad rhagorol wrth gyflawni projectau cenedlaethol a rhyngwladol.

Mae SACC a’r staff wedi ennill a chyflawni’n llwyddiannus gwerth dros £6 miliwn o gontractau ymchwil yn ystod y 4-5 mlynedd ddiwethaf, gan ei wneud yn un o’r sefydliadau ymchwil gros mwyaf o’i fath yn y DU.  Os oes gennych ddiddordeb yn ein gweledigaeth, athroniaeth a gwaith a hoffech wybod mwy, cysylltwch ag aelod o’r tîm heddiw ar  (01248)382907 neu edrychwch ar ein gwefan i ddysgu mwy.

Twitter SACC

icps

© 2011 School of Law, Bangor University, Bangor, Gwynedd LL57 2AS, UK.
tel:+(44) 01248382907+(44) 01248382907 begin_of_the_skype_highlight end_of_the_skype_highlighti | email: icps@bangor.ac.uk